Archif Sgrin a Sain LLGC // NLW Screen & Sound Archive
Archif Sgrin a Sain LLGC - Diogelu a dathlu ein hetifeddiaeth sain a delweddau symudol. English Twitter feed:
http://www.twitter.com/nssaw
Ffrwd Twitter Cymraeg:
http://www.twitter.com/agssc
-------------------------------------------------
NLW Screen & Sound Archive - Safeguarding and celebrating our sound and moving image heritage.
10/04/2026
⭐️ Camwch i mewn i’r Archif: BFI Replay & Llyfrgell Genedlaethol Cymru ⭐️
Dydd Llun y 13eg o Ebrill 1-2pm, Llyfrgell Canolog Merthyr, High Street, Merthyr, CF47 8AF
I ddathlu lansiad BFI Replay yn llyfrgelloedd Merthyr Tudful, ymunwch â ni yn Llyfrgell Ganolog Merthyr ar gyfer y digwyddiad unigryw, rhad ac am ddim hwn sy'n archwilio archifau a gwaith cydweithredol y BFI ac Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGCNLW). Byddwch yn clywed mewnwelediadau archifol gan y BFI a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn gwylio uchafbwyntiau Cymreig o BFI Replay, cyn gorffen gyda dangosiad arbennig o Merthyr Mummy, ffilm fer a wnaed gyda phobl ifanc am y casgliad unigryw o gelf yr Aifft a Nubia a roddwyd gan Harry Southey i Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Treftadaeth Sgrin y BFI, sy'n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol. Archebwch eich tocyn am ddim yma https://www.tickettailor.com/events/bfiheritageprogrammes/2055665
//
⭐️Step inside the Archive: BFI Replay & the National Library of Wales ⭐️
Monday 13th April from 1-2pm, Merthyr Central Library, High Street, Merthyr Tydfil, CF47 8AF
To celebrate the launch of BFI Replay across Merthyr Tydfil libraries, join us in Merthyr Central Library for this unique, free event exploring the archives and collaborative work of the British Film Institute and the National Library of Wales Screen and Sound Archive (LLGCNLW). You'll hear archival insights from the BFI and National Library of Wales, and watch Welsh highlights from BFI Replay, before finishing with a special screening of Merthyr Mummy, a short film made with young people about the unique collection of Egyptian and Nubian Art donated by Harry Southey to Cyfarthfa Castle Museum and Art Gallery. This event is supported by the BFI Screen Heritage Fund, awarding National Lottery funding. Reserve your free ticket here https://www.tickettailor.com/events/bfiheritageprogrammes/2055665
01/04/2026
Dyma Iola, ein Curadur Delweddau Symudol, yn adlewyrchu ar garreg filltir mawr iawn i'r Archif Sgrin a Sain.
“Mae'n benblwydd arbennig ar yr Archif Sgrin a Sain, sy'n dathlu chwarter canrif ers ymgartrefu yn y Llyfrgell. Ar 1af Ebrill 2001 fe unwyd Archif Ffilm a Theledu Cymru gyda Chasgliad Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell, i gychwyn ar daith anturus i gasglu, diogelu a rhannu treftadaeth Cymru o ffilm, darllediadau a recordiadau sain. Bu'r siwrnai weithiau'n llyfn, weithiau'n heriol, ond wastad yn addysgiadol a chyffrous, gyda digon o droeon plot! Tri sy'n dod i'r cof yw cynnal gwyl ffilmiau Fflics yn Y Drwm yn 2007, cynnwys dwy o’n ffilmiau ar Gofrestr Cof y Byd y DU UNESCO (The Life Story of David Lloyd George [1918] yn 2010, a Hepworth Cinema Interviews [1916] yn 2014), a 'darganfod' y ci cartŵn drygionus o dras Cymreig, Jerry the Troublesome Tyke, yng llechu yng nhgelloedd British Pathé: pethau a'n cadwodd i fynd wrth ddelio â'r milltiroedd o droedfeddi o ffilm a thâp, ac ateb cannoedd o ymholiadau fel "Oes ganddoch chi ffwtej diddorol ar....?".
Dyma ddiolch i ymrwymiad pob aelod o 'gast a chriw' ddoe a heddiw, ac edrych ymlaen at y 25 mlynedd nesaf!” 🎉
~
Here’s Iola, our Moving Images Curator, reflecting on a very big milestone for the Screen and Sound Archive.
“It's a special birthday for the Screen and Sound Archive, which is celebrating a quarter of a century since its establishment in the Library. On 1st April 2001 the Wales Film and Television Archive merged with the Library's Sound and Moving Image Collection, to embark on an adventurous journey to collect, protect and share Wales's heritage of sound and moving images. The journey was sometimes smooth, sometimes challenging, but always informative and exciting, with plenty of plot twists! Three that come to mind are hosting the Welsh film festival Fflics in Y Drwm in 2007, inscription on UNESCO’s UK Memory of the World Register (The Life Story of David Lloyd George [1918] in 2010, and Hepworth Cinema Interviews [1916] in 2014), and 'discovering' the mischievous cartoon dog of Welsh origin, Jerry the Troublesome Tyke, lurking in British Pathé's vaults: highlights that kept us going while dealing with the miles of feet of film and tape, and answering hundreds of questions such as "Do you have any interesting footage on....?"
Here's thanking the commitment of each 'cast and crew' member past and present, and looking forward to the next 25 years! 🎉
02/02/2026
I ddathlu Mis Hanes LHDTC+, yn dangos nawr yn ystafell Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae ein set ffilmiau 'Hanesion LHDTC+ o Gymru', cymysgedd amrywiol o glipiau wedi'u cymryd o'n harchifau clyweledol, sy'n cynnwys ffigyrau o'r byd celf, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a mwy.
Yn dod yn fuan! Cadwch lygaid allan am ein blog, bydd yn manylu ar rai o'r clipiau ac yn eu rhoi nhw yn eu cyd-destun hanesyddol.
~
To celebrate LGBTQ+ Month, now showing in the Peniarth room at the National Library of Wales is our new film set 'LGBTQ+ Histories from Wales’, an eclectic mix of clips taken from our audiovisual archives, including figures from the world of art, music, politics and more.
Coming soon! Watch out for our blog, which will take a closer look at the clips and contextualise some of the histories within them.
18/12/2025
Nadolig Llawen gan Dîm Digido Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn edrych ymlaen at 2026 prysur! 🎬📼🎵
//
Merry Christmas from the National Library of Wales Screen and Sound Digitisation Team. Looking forward to a busy 2026! 🎬📼🎵
17/12/2025
Yr hen arfer Nadoligaidd o ddosbarthu cig eidion a haidd i'r henoed yn Nanhyfer, Sir Benfro ⭐️ (ITV Cymru Wales, 1964)
//
The old Christmas custom of distributing beef and barley to the elderly in Nevern, Pembrokeshire ⭐️ (ITV Cymru Wales, 1964)
News - Tx2n. This item may contain historical material that can cause distress or offence, including discriminatory language and attitudes" Beef And Barley " Tradition At...
16/12/2025
Cymharu'r traddodiadau hen a newydd y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng Nghymru (1993, BBC Cymru Wales) 🎁
~
Comparing the old and new traditions at Christmas and New year in Wales (1993, BBC Cymru Wales) 🎁
Defodau a ddathliadau traddodiadol Nadolig a'r Calan y Cymry o gymharu a dathliadau modern. John Huws sydd yn edrych ar draddodiadau canol gaeaf yng Nghymru, adeg y Nadolig a gwyl Calan. Mae'r eitem yn dechrau gyda disgrifiad o arferion ein Nadoli...
10/12/2025
Rhag ofn bod unrhyw amheuaeth, mae Siôn Corn YN darllen bob un o'i lythyrau... 🎅 (ITV Cymru Wales, 1966)
//
Just in case there's any doubt, Santa DOES read all of his letters... 🎅 (ITV Cymru Wales, 1966)
Y Dydd & Tx2 News. This item may contain historical material that can cause distress or offence, including discriminatory language and attitudesFather Christmas Reads Letters T...
09/12/2025
Disgyblion ysgol gynradd Trefenter yn perfformio drama gerdd y Geni i ddathlu'r Nadolig, 23 Rhagfyr 1965 (BBC Cymru Wales). Fel bob amser, y recorder yw seren y sioe...! ⭐🎁
~
Trefenter primary school pupils perform their musical Nativity play to celebrate Christmas, 23rd December 1965 (BBC Cymru Wales). As always, the recorder is the star of the show...! ⭐🎁
Disgyblion ysgol gynradd Trefente yn perfformio drama gerdd y Geni Disgyblion ysgol gynradd Trefenter yn perfformio drama gerdd y Geni i ddathlu'r Nadolig.Trefenter primary school pupils perform their musical Nativity play t...
08/12/2025
Dyma draddodiad eithaf peryglus yr olwg, 'Ceiniogau Poeth', lle byddai darnau a***n yn cael eu 'cynhesu' a'u taflu i'r dorf oedd yn aros isod! Wedi'i weld yma ar Ynys Môn, Rhagfyr 1965.
~
The rather dangerous looking tradition of 'Hot Pennies', where coins were 'warmed up' and thrown to the waiting crowd below! Seen here on Anglesey, December 1965.
Y Dydd. This item may contain historical material that can cause distress or offence, including discriminatory language and attitudesHot Pennies Are Preapred For An ...
04/12/2025
🎞️Diwrnod Agored - Open Day 🎞️
Yn gynharach yr wythnos hon, cynhaliodd timau Digido a Churadurol yr Archif Sgrin a Sain y cyntaf o ddau ddiwrnod agored fel rhan o brosiect Sgiliau Ffilm ar gyfer y Dyfodol, a gefnogir gan y British Film Institute a'r Loteri Genedlaethol.
Nod y prosiect yw meithrin gwydnwch o fewn y tîm digido a datblygu gweithlu mwy hyblyg, medrus ac addasadwy, yn barod i fynd i'r afael ag ystod eang o heriau cadwraeth clyweledol. Bwriad y diwrnodau agored yw ehangu effaith y prosiect y tu hwnt i'r archif, ac ein helpu i groesawu pobl newydd i ddarganfod y gwaith arbenigol ein timau.
Roedd y diwrnod agored cyntaf yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau, teithiau tywys o amgylch y bloc technegol clyweledol, a sesiynau ymarferol i fynychwyr, ac roedd ymateb gwych gan bawb a fynychodd!
Cynhelir yr ail ddiwrnod agored yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf, gyda ffocws ar weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector treftadaeth Cymru. Cadwch lygad allan am fanylion!
//
Earlier this week, the Screen and Sound Archive's Digitisation and Curatorial teams hosted the first of two open days as part of the Film Skills for the Future project, supported by the British Film Institute and the National Lottery.
The project’s aim is to build resilience within the digitisation team and develop a more agile, skilled, and adaptable workforce, ready to tackle a wide range of audio-visual preservation challenges. The open days serve to broaden the project’s impact beyond the archive, and help us welcome new people to discover the specialist work carried out by our teams.
The first open day featured a mix of talks, guided tours of the audio-visual technical block, and hands-on sessions for attendees, and had a great response from all who attending!
The second open day will take place in Spring next year, with a focus on professionals working in the Welsh heritage sector. Keep an eye out for details!
Lluniau / Photos - Angharad Bache / Scott Waby
Click here to claim your Sponsored Listing.
Category
Telephone
Website
Address
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY233BU
Opening Hours
| Monday | 9:30am - 6pm |
| Tuesday | 9:30am - 6pm |
| Wednesday | 9:30am - 6pm |
| Thursday | 9:30am - 6pm |
| Friday | 9:30am - 6pm |